Skip to main content

This job has expired

CEO, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Employer
The MBS Group
Location
St Asaph, Denbighshire, Gogledd Cymru
Salary
Cystadleuol
Closing date
11 Apr 2023
Phone number
020 7XXXXXXXX

Dyma gyfle unigryw i arweinydd rhagorol y gall ei werthoedd personol, ei weledigaeth strategol a’i hanes gwych effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Bwrdd Iechyd mwyaf Cymru gyda 19,000 aelod o staff, yn gwasanaethu poblogaeth o 700,000 ar draws tirwedd anhygoel sy’n cynnwys mynyddoedd bendigedig Eryri ac arfordir sy’n gartref i rai o’r traethau gorau yn y byd.

Mae gan y Bwrdd Iechyd hanes cymhleth ac mae angen unigolyn eithriadol i’w arwain trwy gyfnod anodd a heriol. Mae angen Prif Swyddog Gweithredol arno a all ysbrydoli, ysgogi ac arwain y tîm gweithredol, arweinwyr clinigol a rheolaethol a’u staff i fod ar eu gorau fel y gallant ffynnu mewn diwylliant ac ethos sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion.

Gan gydweithio’n dda gyda’r Cadeirydd a’r bwrdd newydd a benodwyd yn ddiweddar, ac mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid, byddwch yn adeiladu diwylliant cadarnhaol yn seiliedig ar werthoedd a pharch. Byddwch yn sefydlu gweledigaeth, yn datblygu strategaethau, strwythurau a fframweithiau, ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol o fewn a thu allan i BIPBC a fydd yn gwella iechyd a bywydau pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru.

Byddwch yn goruchwylio darpariaeth yn erbyn ansawdd, perfformiad, cydymffurfiaeth a chyllid sy’n fesuradwy i bobl Gogledd Cymru trwy eu profiad eu hunain – megis amseroedd aros gwell, canlyniadau gwell ac ansawdd gofal gwell.

Mae gan BIPBC swydd hollbwysig sef cefnogi pobl Gogledd Cymru i wella eu hiechyd a’u lles, a gofalu amdanynt pan fyddant yn sâl, neu angen cefnogaeth a chymorth meddygol. Mae ein staff yn rhan o’u cymunedau lleol. Maent yn gweithio ar draws 97 o bractisau meddygon teulu, 17 o ysbytai cymunedol, a thri ysbyty cyffredinol dosbarth ac yn ymdrechu’n ddyddiol i gefnogi eu cymdogion, eu teuluoedd a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

Maen nhw’n chwilio am rywun a all eu harwain nhw a’r sefydliad tuag at ddyfodol mwy disglair. Dyfodol lle mae pawb sy’n gysylltiedig â BIPBC yn falch o’i ddarpariaeth a’i gyfraniad i gymunedau Gogledd Cymru. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich croesawu a’ch cefnogi gan bawb o’ch cwmpas.

Os oes gennych chi brofiad sylweddol fel arweinydd mewn sefydliad iechyd cymhleth, amlochrog, a hanes o greu effaith gadarnhaol a chreu diwylliannau grymusol, atebol, yna cysylltwch â ni.

Mae Grŵp MBS yn gweithredu fel cynghorwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y penodiad hwn

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert